SNAP Specialist Play

SNAP Specialist Play

Mae’r 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn yn un pwysig i dyfu a datblygu’n ffisegol, hybu datblygiad ymddygiadol, cymdeithasol ac emosiynol.

Mae SNAP yn elusen i blant o dan oed ysgol (a’u rhieni), sydd âg anghenion ychwanegol a chymleth. Bwriad yr elusen yw i gynnig cymorth ymarferol a chreadigol, gan sicrhau “llais” i’r plentyn. Maent yn rhoi cyfle i’r plant leisio eu hanghenion i gyrraedd eu potensial drwy chwarae.

Amdanom ni:

Mae SNAP wedi bod yn cydweithio’n agos gyda arbenigwyr paediatrig, iechyd ac addysg yn Sir Benfro ers 1993 gyda’r bwriad fod plant ag anghenion arbennig a chymleth yn cael cyfle i ffynnu.  

Rydym yn defnyddio’r pŵer o ddysgu trwy chwarae i helpu’r plant i gyrraedd eu camau oed a datblygu. Yna, fe gefnogwn y broses o bontio mewn i’r meithrin fwyaf addas.  

Ar yr un pryd, mae SNAP yma i gefnogi teuluoedd i ddod yn fwy cryf ac optimistig, gan rhoi’r offer a sgiliau gorau ar ddechrau eu taith bywyd.  

Rydym:

Yn cynnal sesiynau therapi chwarae sydd yn cyfoethogi datblygiad y plentyn, i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus.

Am rhoi hyder i gofalwyr i gefnogi eu plant trwy chwarae, a rhoi ffocws penodol ar les y teulu cyfan..

Am sicrhau y bydd eich plentyn yn trosglwyddo ac yn pontio i mewn i’r feithrinfa fwyaf addas, a gyda’r gefnogaeth cywir, fel y gallant gyrraedd eu llwyr potensial. 

Yn anelu i estyn ein gwasanaeth unigryw i gefnogi plant a theuluoedd sydd angen cymorth. Rydym am ddatblygu ein gwasanaeth unigryw ymhellach fel y gall plant ffynnu a llwyddo, nid goroesi yn unig.

AROS • CHWARAE

'Ro’n i bron a chyrraedd pen fy nhennyn heb gwsg am 18 mis, crio cyson a heb fawr o siarad na chysylltiad ag eraill. Doedd neb yn gwrando arna’ i. Roeddwn wedi cyrraedd pwynt isel iawn o ddim am fod yma rhagor o achos y straen ofnadwy.

SNAP oedd y gefnogaeth gyntaf y cafodd fy merch fach. Rwy’n cofio wylo a thorri fy nghalon yno. Am y tro cyntaf ro’n i’n gwybod ei bod yn ddiogel ac yn cael ei gwarchod gan bobl a oedd yn “deall".

Mae angen cefnogaeth un i un mewn amgylchedd ddiogel ar blant bach âg anableddau. Newidiodd SNAP ein bywydau'

Gwasanaethau

Specialist Play

Cynnigwn therapi chwarae dwys â chefnogaeth 1:1 wythnosol i blant ag anghenion ychwanegol a chymleth. Darllen Mwy

Rydym yn cynnal gweithdai i deuluoedd ac anelwn i hwyluso rhwydweithio cymunedol.
Darllen Mwy

Rydym yn cynnal gweithdai ar-lein ac wyneb yn wyneb i rhieni a theuluoedd i ddysgu arwyddiaith sydd yn hwyluso cyfarthrebu gyda’u plant drwy caneuon ac odlau. Darllen Mwy

Tîm Chwarae Arbenigol SNAP

Mae gan ein tîm ymroddgar o leiaf wyth blynedd o brofiad. Rydym oll wedi cael hyfforddiant arbenigol i gefnogi plant ag anghenion addysgu ychwanegol a chymleth. Ry’ ni’n dwli gweithio gyda plant ar raddfa un i un, gan wahaniaethu gweithgareddau sydd yn addas i’r plentyn a’u cam datblygiad.

Mae gan bob aelod o staff SNAP dystysgrif DBS gwell (enhanced), ynghyd â chymhwyster Lefel 3 QCF neu uwch yn Addysg a Datblygiad Gofal Plant. Mae’r staff yn brofiadol ac yn wybodus iawn. Golyga hyn y bydd y plant cael y profiad gorau tra eu bod gyda ni.

  • Lefel 3 QCF neu Uwch
  • Gwriad DBS llawn
  • Profiadol
  • Cefnogaeth Un i Un

Cyfleusterau

Mae gennym ni ddwy ystafell chwarae...

Cyfraniadau

Mae SNAP yn elusen annibynnol unigryw i Sir Benfro. Rydym yn dibynnu ar gyfraniadau, grantiau a chronfeydd ariannol eraill i gynnal y gwasanaeth unigryw ac amhrisiadwy yma. Os y dymunwch wneud cyfraniad i elusen SNAP, medrwch wneud isod drwy PayPal:

Diolch o galon am eich holl gefnogaeth!



Sut i gyfeirio plentyn at SNAP?

Gan ein bod yn wasanaeth arbenigol, ni all teuluoedd gyfeirio atom ni’n uniongyrchol. Rhaid i’r plant gael eu cyfeirio gan arbenigwyr o faes iechyd yn unig. Os ydych yn meddwl fod angen cyfeirio eich plentyn at SNAP, trafodwch gyda un o’r canlynol:

  • Pediatryddion Cymunedol
  • Ymwelwyr Iechyd Cymunedol
  • Therapydd Iaith a Lleferydd
  • Ffysiotherapydd
  • Therapydd Galwedigaethol
  • Aelod o’r Tim Newydd-Anedig

Os mae eich plentyn wedi eu cyfeirio at SNAP yn barod, a hoffech chi drefnu ymweliad cyn bod eich plentyn yn dechrau, cysylltwch â Cindy Jenkins, Rheolwraig SNAP.

Am fwy o wybodaeth...

SNAP Croc