SNAP
Mwy o wybodaeth...
Mae SNAP yn darparu…
Awyrgylch cynnes a chyfeillgar ble gall eich plentyn deimlo'n ddiogel ac hapus mewn amgylchedd sydd yn cyfoethogi eu datblygiad a'u haddysg.
Cyfleusterau a Gweithgareddau:
Ystafell chwarae 1: Tywod, Dŵr, Crefftau a Chwarae Anniben, Chwarae rôl, Cyfrifiadur, Gweithgareddau Sgiliau Cain, ardal byrbrydau (darparwn byrbrydau) gyda cyfleusterau cegin a storfa ar wahân.
Cyfleusterau tŷ bach gyda byrddau newid ar wahân (y medrwch tynnu i lawr), mynediad i'r anabl a chymhorthion toiled.
Ystafell chwarae 2: Ystafell synhwyraidd, ardal dawel, cornel lyfrau, gofod llawr ar gyfer adeiladu a chwarae byd bach, gyda storfa ar wahân. Ar hyn o bryd nid oes gennym ni unrhyw ardal chwarae awyr agored, ond mae gennym lawer o adnoddau a chyfarpar wedi’u darparu dan do sy’n cefnogi datblygiad sgiliau cain plant.
Nodau:
Nod S.N.A.P yw i gynorthwyo’ch plentyn i integreiddio i’r cylch chwarae cymunedol lleol mwyaf addas gyda’r lefel cywir o gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Gwnawn hyn drwy gweithio gyda tîm amlddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol i asesu anghenion eich plentyn yn y lleoliad chwarae. Cynigwn sesiwn chwarae strwythuredig, ble y defnyddiwn therapi i wella datblygiad y plentyn.
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn ymweld yn rheolaidd i gynghori’r Staff Cymorth Arbenigol Chwarae. Gyda’u gilydd maent yn dyfeisio cynllun chwarae unigol i wneud y gorau o sgiliau eich plentyn ac i annog eu datblygiad. Defnyddiwn yr iaith Gymraeg, Saesneg yn ogystal â ffurfiau eraill o gyfathrebu o fewn sesiynau. Caiff yr holl weithgareddau eu haddasu i weddu i anghenion unigol a chyfnod datblygiad y plentyn. Rydym yn defnyddio cyfnodolyn datblygiadol, graddfeydd P, Proffil y Cyfnod Sylfaen ynghyd â fframwaith cwricwlwm newydd i Gymru o fewn y lleoliad i fonitro cynnydd plant. Bydd trefn a gweithgareddau wythnosol yn cael eu harddangos ar waliau ac addasiadau yn cael eu gwneud i hwyluso Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Mynychu SNAP:
Gall plant gael eu cyfeirio gan y Gweithwyr Proffesiynol canlynol:
- Pediatryddion Cymunedol
- Ymwelwyr Iechyd Cymunedol
- Therapydd Lleferydd ac Iaith (SALT)
- Ffisiotherapydd (PT)/Therapydd Galwedigaethol (OT) Tîm Newyddenedigol
Wedi i ni dderbyn yr atgyfeiriad:
- Bydd eich plentyn yn cael ei rhoi ar y rhestr aros
- Byddwch yn cael gwybod pan fydd lle ar gael
- Cewch gwybodaeth llawn am ein proses ymsefydlu, amodau a thelerau’r contract yn ystod ein cyfarfod sefydlu.
- Os hoffech ymweld â SNAP ymlaen llaw, cysylltwch â Cindy Jenkins (Rheolwr)
Yn ystod eich amser yn SNAP:
- Bydd eich plentyn yn cael cynnig CYFNOD ASESU CYCHWYNNOL
- Bydd cynnydd a lle eich plentyn yn cael ei adolygu a'u monitoro’n gyson
Staff Cymorth Arbenigol Chwarae:
Mae gan bob plentyn aelod o staff cymwysiedig a fydd yn aros gyda nhw trwy gydol eu hamser yn y cylch chwarae (lle bynnag y bo modd). Rhoddir gofal mawr i ddyrannu staff sy’n fedrus i gefnogi anghenion eich plentyn.
Mae gan holl staff sy’n gweithio yng Nghylch Chwarae SNAP gymhwyster QCF lefel 3 mewn Dysgu a Datblygiad Gofal Plant neu uwch. Mae ganddynt DBS manwl, ynghyd a llawer o flynyddoedd o brofiad a gwybodaeth.
Mae polisïau o fewn y lleoliad yn cael eu hadolygu’n flynyddol neu pan fo angen a hysbysir AGC o’r newidiadau a wneir.
Cysylltiadau ag Eraill:
Mae SNAP wedi ei leoli yn Adran Iechyd Plant Ysbyty Llwynhelyg. Mae'r Ymddiriedolaeth yn darparu arbenigedd y therapyddion amrywiol sydd ar gael yn yr ysbyty ac yn cefnogi'r tîm yn rheolaidd. Mae gennym ni gyswllt amhrisiadwy â Ffisiotherapi, Therapyddion Iaith a Lleferydd, Therapi Galwedigaethol, Iechyd Plant a Phediatreg.
Rhoddion Elusennol:
Gan ein bod yn elusen cofrestredig, croesawn unrhyw nawdd lleol i gefnogi'r sesiynau sydd ar gael i'r teuluoedd sydd angen y gwasanaeth.