Ein Gwerthoedd
SNAP – Ein Gwerthoedd
Arferion gofal gyfannol sydd yn canolbwyntio ar deulu
Mae’r ymagwedd gyfannol i deuluoedd yn graidd i’n harferion. Mae’r plentyn yn ganolbwynt i'n gofal. Anelwn i rymuso’n teuluoedd yn ofalgar a charedig drwy cyfarthrebu’n onest.
Proffesiynol ac Addasadwy
Mae gennym dîm ymroddedig a phroffesiynol. Rydym yn ymarferwyr adfyfyriol hefyd. Darparwn ofal gyda dealltwriaeth ac empathi i bob sefyllfa deuluol unigol. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu’n brofesiynol yn gyson. Gwnawn hyn drwy ymchwil, ymarfer ac hyfforddiant o bob math.
Creadigol, chwareus a hwyliog
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r plant ag anghenion ychwanegol neu gymleth, gan wrando arnynt o hyd. Gwnawn hyn mewn amgylchedd ddiogel a chreadigol. Defnyddiwn ddulliau hwyliog i ysgogi chwarae a sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer eu hanghenion.
Cydweithio
Er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl, rydym yn cydweithio agos gyda’r gymuned leol ac eang fel bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Anelwn i ddarparu cysondeb a dilyniant wrth bontio ymhob cam bywyd, gan sicrhau bod y plentyn yn ganolog i’r cyfan.
Ein heffaith ar Ymyrraeth Cynnar
Ry’ ni am rhannu ein gwybodaeth a’n gobaith y gall plant ag anghenion ychwanegol neu gymhleth ffynnu wedi iddynt gael y cymorth cywir yn gynnar yn eu bywyd.