Tîm Arbenigwyr Chwarae SNAP

Mae gan ein tîm ymroddgar o leiaf wyth blynedd o brofiad. Rydym oll wedi cael hyfforddiant arbenigol i gefnogi plant ag anghenion addysgu ychwanegol a chymleth. Ry’ ni’n dwli gweithio gyda plant ar raddfa un i un, gan wahaniaethu gweithgareddau sydd yn addas i’r plentyn a’u cam datblygiad.

Mae gan bob aelod o staff SNAP dystysgrif DBS gwell (enhanced), ynghyd â chymhwyster Lefel 3 QCF neu uwch yn Addysg a Datblygiad Gofal Plant. Mae’r staff yn brofiadol ac yn wybodus iawn. Golyga hyn y bydd y plant cael y profiad gorau tra eu bod gyda ni.

Cwrdd â'r tîm…

cindy jenkins

Cindy Jenkins

Rheolwr Cylch Chwarae SNAP

Fy enw i yw Cindy Jenkins. Rwy’n briod gyda dau o blant yn byw yn Aberdaugleddau, Sir Benfro. Rwy'n Rheolwraig Cylch Chwarae Arbenigol SNAP ers 2003. Rwy’ wedi cwblhau BTEC ND a BSc mewn Astudiaethau Plentyndod ynghŷd â’r QCF mewn Arwain a Rheoli. Mae gen i nifer o gymwysterau, gwybodaeth a phrofiad lu o weithio gyda plant ag anghenion ychwanegol a'u teuluoedd. Mae pawb sydd yn fy adnabod neu’n gwybod pwy yw SNAP, yn dweud fy mod yn angerddol iawn am fy ngwaith ac ei fod yn bwysig i ddathlu llwyddiannau’r plant a ddaw yma. Mae SNAP yn gwneud hyn drwy darparu profiadau difyr, gwella ffyrdd o ddatblygu llais y plentyn, ond hefyd gan gefnogi llesiant ein teuluoedd!

Maxine Chell

Gweithiwr Cefnogi Arbenigol Chwarae

Rwy’n enedigol o Sir Benfro- wedi fy magu, priodi a magu teulu yma! Rwy’n dwli gweithio fel GCAC yn SNAP.

Mae gen i brofiad helaeth o weithio ym maes gofal plant ers i mi adael yr ysgol, o weithio fel nani yn Awstria, gweithio fel cynorthwydd dosbarth ac fel is-rheolwraig mewn meithrinfa prysur tra’n cefnogi fy ngŵr a diddordebau lu fy mhlant (o gwib gartio, rygbi, dosbarthiadau drama a chroes-foduro).

Wedi i mi dderbyn gradd BA mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar ac hyfforddiant arbenigol parhaus tra’n SNAP ar gyfer ein plant ag anghenion cymleth, rwy’n teimlo’n gymwys ac yn hyderus i gefnogi anghenion a datblygiad plant. Nid oes teimlad gwell yn gwybod eu bod yn symud ymlaen i’r ysgol wedi cyrraedd eu potensial.

Candice Goldsmith

Gweithiwr Cefnogi Arbenigol Chwarae

Fy enw i yw Candice. Rwy'n byw gyda fy ngŵr, fy merch a dau gi.

Rwy'n cael fy nghyflogi fel gweithiwr cymorth Arbenigwr Chwarae ac wedi bod yn gweithio yn SNAP ers 2009. Rwy’ wedi cwblhau BA (Anrh) mewn Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant ac Addysg o Brifysgol Cymru, Dewi Sant. Yn ogystal â’r radd yma, rwy’ wedi cwblhau llawer o hyfforddiant ym maes ADY, o rhaglen “Attention Autism”, rhaglen “Curiosity” a rhaglen datblygu sgiliau rhyngweithio dwys.

Rwy’n gweithio o fewn tîm gwych yn SNAP ac wrth fy modd yn gweithio gyda’r plant a’u teuluoedd. Mae’n fwynhad pur i allu dathlu camau datblygiad y lwyddai’r plant trwy hwyl a chwarae.

Alison Upstill

Gweithiwr Cefnogi Arbenigol Chwarae

Hi, my name is Alison,  I have been working with SNAP for 7 years since 2016. Having worked with children for over 25 years in a variety of capacities and environments I was lucky enough to be offered a role as a Play Specialist Support Worker implementing one to one programmes of support for very young children with ALN and complex needs, pre and post diagnosis.

Yn 2018 penderfynais uwchsgilio ymhellach ac astudio BA Anrhydedd yn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar. Llwyddais i gael gradd dosbarth cyntaf, gan gwblhau’r cwrs mewn dwy flynedd. Rwyf wedi penderfynu parhau â’m hyfforddiant proffesiynol a bydd y cwrs yn dechrau ym Mis Medi 2023

Rwy’ wrth fy modd yn gweithio yn rhan o tîm SNAP. Mae pob cam datblygiad yn garreg filltir pwysig i’r plant yn SNAP. Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r daith gyda’r plant.

melinda

Melinda Williams

Gweithiwr Cefnogi Arbenigol Chwarae

Helo, Melinda ydw i. Rwy’ wedi gweithio rhan amser yn SNAP am ddeuddeg mlynedd tra’n gan magu pump o fechgyn.

Cwblheais NVQ Lefel 3 cyn dechrau fy ngyrfa fel gweithiwr cymorth chwarae arbenigol un-i-un. Rwy’ wedi gweithio mewn nifer o leoliadau gofal plant a sawl meithrinfa ddydd. Fe wnaeth y profiad yma rhoi’r gwybodaeth a’r hyfforddiant gorau i gefnogi pontio plant SNAP i mewn i amgylchedd dysgu mwy prysur.

Mae’n foddhad llwyr i weithio yn SNAP. Mae cefnogi’r plant i gyrraedd eu camau datblygiad yn fy ngwneud i yn hapus iawn.

Rwy'n ffodus iawn i fod mewn swydd rwy'n ei fwynhau, gan edrych ymlaen i fynd i’m gwaith bob dydd.

Cymwysterau